Cyfraith Gyflogaeth
Mae gwybod beth yw eich hawliau cyflogaeth yn eithriadol bwysig. Mae ein cyfreithwyr yn cynnig cyngor ar beth y dylech ei wybod am eich hawliau. Dim ots pa drafferthion cyflogaeth yr ydych yn eu cael, gallwn ni helpu.
Gallwn Helpu Gyda Phob Mater yn Ymwneud â Chyflogaeth, gan gynnwys:
- anghydfod yn y gwaith
- os teimlwch y cawsoch eich diswyddo’n annheg neu ar gam
- os cawsoch eich gwneud yn ddi-waith
- os cawsoch eich diswyddo
- os ydych wedi gadael eich swydd yn wirfoddol
- cychwyn neu amddiffyn achos yn y Tribiwnlys Cyflogaeth
Os Ydych wedi Profi Gwahaniaethu yn y Gwaith
- codi cwynion cyflogaeth
- cytundebau diswyddo/cyfaddawd
- isafswm cyflog
- trosglwyddo busnes (TUPE)
- torri contract
- materion disgyblu
- pensiynau
- cytundebau cyflogaeth
Anelir ein gwasanaethau at weithwyr a chyflogwyr fel ei gilydd. Gallwn roi cyngor cysylltiedig â gweithwyr ar bob un o’r materion uchod ond mae ein gwasanaethau hefyd yn ymestyn i ddrafftio cytundebau cyflogaeth, rhoi cyngor ar eich gofynion statudol fel amodau gwaith, yswiriant atebolrwydd, PAYE, yswiriant gwladol, pensiynau, dileu swyddi, diswyddo gorfodol, hawliau cyfartal a gwahaniaethu. Gallwn hefyd roi cyngor i chi ar hawliau gweithwyr ar ôl gwerthu busnes, a’r goblygiadau cyflogaeth wrth brynu busnes.
Cyfraith Gyflogaeth