Trawsgludo Preswyl
P’un ai prynu neu werthu eiddo ydych chi, gallwn eich tywys drwy gymhlethdod y broses drawsgludo. Gallwn gynnig cyngor ymarferol i chi er mwyn gwneud yn siwr bod eich trawsgludiad yn broses effeithlon a llyfn.
Deliwn gyda Phob Agwedd ar y Farchnad Eiddo, gan gynnwys:
- prynu a gwerthu eich cartref
- prydlesi preswyl, gan gynnwys popeth yn ymwneud â chyfraith landlord a thenant
- cael ail forgais
- trosglwyddo ecwiti
- hawliau tramwy a hawddfreintiau
- prynu tir ar gyfer datblygu/cartrefi newydd
Byddwn yn mynd â chi fesul cam drwy’r broses brynu a gwerthu gyda chyswllt un-i-un gyda’n cyfreithwyr fydd yn eich tywys yn bersonol drwy’r broses. Sylweddolwn fod prynu ty’n debygol o fod yr ymrwymiad ariannol mwyaf y byddwch byth yn ei wneud a byddwn, felly, yn ceisio lleihau’r straen sy’n aml yn gysylltiedig â hyn drwy gynnig gwasanaeth unigol iawn er mwyn osgoi oedi a gwneud yn siwr eich bod yn gwybod beth sy’n digwydd bob amser. Rydym yn rhoi pwyslais cryf iawn ar gyfathrebu a byddwn yn cymryd amser i egluro pob cam mewn iaith syml.
Byddwn hefyd yn hapus i’ch helpu gydag ymholiadau cyffredinol ac mae croeso i chi ffonio ein swyddfeydd.
Rydym yn falch o fod yn un o’r ychydig gwmnïau yng Ngogledd Cymru sydd wedi’u cymeradwyo gan Gymdeithas y Gyfraith fel aelod o’u Cynllun Ansawdd Trawsgludo.
Trawsgludo Preswyl