Trawsgludo Masnachol

P’un ai prynu, gwerthu neu brydlesu eiddo masnachol ydych chi, gallwn eich tywys drwy gymhlethdod y broses drawsgludo. Gallwn gynnig cyngor ymarferol i chi er mwyn gwneud yn siwr bod eich trawsgludiad yn broses effeithlon a llyfn.

Deliwn gyda Phob Agwedd ar y Farchnad Eiddo Masnachol, gan gynnwys:

  • prynu a gwerthu eiddo masnachol mawr a bach, a thir amaethyddol
  • prynu a gwerthu tir ar gyfer datblygu
  • prydlesi masnachol gan gynnwys popeth yn ymwneud â chyfraith landlord a thenant
  • cael ail forgais ar eiddo masnachol
  • gwerthu a phrynu a thenantiaethau amaethyddol
  • prynu a gwerthu cychod pysgota

Byddwn yn mynd â chi fesul cam drwy’r broses gyda chyswllt un-i-un gyda’n cyfreithwyr er mwyn osgoi oedi a gwneud yn siwr eich bod yn gwybod beth sy’n digwydd bob amser. Rydym yn rhoi pwyslais cryf iawn ar gyfathrebu a byddwn yn cymryd amser i egluro pob cam mewn iaith syml.

Byddwn hefyd yn hapus i’ch helpu gydag ymholiadau cyffredinol ac mae croeso i chi ffonio ein swyddfeydd.

Rydym yn falch o fod yn un o’r ychydig gwmnïau yng Ngogledd Cymru sydd wedi’u cymeradwyo gan Gymdeithas y Gyfraith fel aelod o’u Cynllun Ansawdd Trawsgludo.