Ewyllysiau a Phrofiant

Ewyllysiau

Ni allwn or-ddweud pa mor bwysig yw gwneud ewyllys. Gallwn sicrhau bod eich asedau’n pasio i’r bobl a ddewiswch, p’un ai’n anwyliaid neu’n achosion da, beth bynnag yw eich dymuniad. Gallwn egluro’r agweddau mwy technegol ar y broses weinyddol i chi. Bydd ein cyfreithwyr yn drafftio ewyllys i chi sy’n ystyried eich dymuniadau, eich ymrwymiadau a’ch amgylchiadau ariannol personol ac yn cynnig cyngor proffesiynol ar faterion fel gwarcheidwaid i blant bach, cynllunio ar gyfer treth ac ymddiriedolaethau etc.

Pwerau Atwrnai Parhaol

Cynigiwn gyngor ymarferol ar ddelio gyda’ch materion personol, gan gynnwys rhai eich teulu. Os teimlwch na allwch chi, neu rywun sy’n agos atoch, ddelio gyda materion ar eich pen eich hun/eu pen eu hunain, p’un ai’n faterion ariannol neu bethau eraill, gallwn eich tywys drwy’r broses o sefydlu Pwerau Atwrnai Parhaol ar gyfer Materion Ariannol ac Iechyd a Lles a gwneud cais i’r Llys Gwarchod. Os oes gennych unrhyw gwestiwn am y materion hyn, cofiwch gysylltu â ni.

Profiant

Ar ôl i rywun farw, fel arfer bydd angen cael Grant Profiant ac yna bydd ysgutorion yr ystâd yn gallu gweithredu dymuniadau’r ymadawedig o dan yr Ewyllys. Cynigiwn help llaw dosturiol a pharod i gymryd y baich o weinyddu ystâd oddi arnoch. Ceisiwn ddelio gyda phob mater profiant mewn ffordd effeithlon a allai gynnwys:

  • trefnu i brisio cartref, tir, cyfrifon, cyfranddaliadau a buddsoddiadau’r ymadawedig
  • delio gyda’r mater o dreth etifeddiaeth a threthi eraill
  • gwneud cais am grant profiant
  • ymddiriedolaethau sy’n codi o’r ystâd
  • cau cyfrifon, troi buddsoddiadau’n arian parod, gwerthu cartref yr ymadawedig a dosbarthu’r ystâd
  • delio gydag unrhyw hawliad yn erbyn yr ystâd gan drydydd partïon neu her i’r ewyllys

Gallwn hefyd roi cyngor arbenigol ar gymhlethdod unrhyw ymddiriedolaeth sy’n cael eu gadael mewn Ewyllys a rhai sydd angen eu creu ar ôl marwolaeth person, os yw un o fuddiolwyr yr ystâd o dan 18 oed er enghraifft. Gallwn helpu gyda’r ystod lawn o faterion yn hyn o beth, gan gynnwys drafftio ymddiriedolaethau a chychwyn neu amddiffyn achos yn erbyn ystâd.