Gonestrwydd ac Ymddiriedaeth
Ymdrinnir â’ch materion yn broffesiynol ac yn gwbl gyfrinachol pob amser. ‘Rydym yn gwmni lleol ac yn ymfalchïo yn ein gwasanaeth cyfeillgar a di-lol, a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i’ch helpu.
Mae gennym flynyddoedd o brofiad, ac ‘rydym yn ymfalchïo mewn darparu’r gwasanaeth cyfreithiol gorau posib i’r gymuned.
‘Rydym yn credu ym mhwysigrwydd adeiladu perthynas barhaol gyda chenedlaethau o deuluoedd a busnesau lleol sydd yn defnyddio ein gwasanaeth.
Mae gennym swyddfeydd yn Nolgellau, Y Bala a Dinbych, a ‘rydym y gwasanaethu ardal ddaearyddol eang trwy Ogledd a Chanolbarth Cymru. Gallwn ddelio gyda materion teulu, olyniaeth, ewyllysiau a phrofiant, gwerthu a phrynu eiddo ac atwrniaethau arhosol yn ogystal â ymgyfreithia sifil.
Sefydlwyd y ffyrm yng nghanol y 19eg ganrif yn Nolgellau a’r Bala. Agorodd ein swyddfa yn Ninbych yn 2004.
Mae croeso i chi wneud apwyntiad i ddod i’r swyddfa, neu gallwn gynnig apwynitadau dros y ffôn neu ar Zoom. Gellir trefnu ymweliadau cartref lle bo’r angen.
‘Rydym ar agor rhwng 9.00y.b. a 5.00y.h Dydd Llun tan Ddydd Gwener. Gellir trefnu cyfartod tu allan i oriau swyddfa lle bo’r angen.
Mae manylion ar gael ar ein gwefan, ac os y byddwch yn ein cyfarwyddo yna byddwn yn anfon gohebiaeth atoch a fydd yn cynnwys gwybodaeth fanwl a fydd yn benodol i’ch mater.
Ni fydd ffi yn cael ei godi am sgwrs gychwynnol. Byddwn yn cymryd eich manylion a bydd y ffioedd tebygol yn cael eu trafod, ond ni fyddwn yn darparu cyngor am ddim.