Anghydfodau a Hawliau Cyfreithiol
Cyfreitha Sifil
Weithiau pan fydd anghydfod rhwng dwy ochr, mae mynd i’r llys yn anochel. Os byddwch yn canfod eich hun neu eich busnes yn y sefyllfa hon, gallwn eich helpu i sicrhau eich bod yn ennill y canlyniad gorau posib.
Gall cyfreitha sifil gynnwys dod ag achos llys i ddatrys anghydfod rhwng unigolion, cwmnïau, awdurdodau lleol ac adrannau’r llywodraeth. Gallwn hefyd roi cyngor i chi ar ffyrdd eraill o ddatrys pethau, er enghraifft drwy gyflafareddu neu gyfryngu, er mwyn osgoi’r costau posib sy’n gysylltiedig â mynd i’r llys.
Gall anghydfod sifil godi mewn nifer o ffyrdd, o dorri contract rhwng dwy ochr i ddifrod a achoswyd gan rywun arall yn fwriadol neu’n esgeulus. Byddwn yn edrych ar eich achos ac yn rhoi cyngor penodol i chi ar haeddiannau eich achos, neu ddiffyg haeddiannau eich achos, a’ch siawns o lwyddo.
Rydym yma i gynrychioli eich buddiannau. Byddwn yn trafod gyda chi’n fanwl beth yw risgiau posib a chostau posib eich achos er mwyn eich helpu i wybod beth orau i’w wneud i ddatrys eich anghydfod. Gallwn drafod ar eich rhan, a lle bo angen, gallwn gychwyn neu amddiffyn achos mewn llys.
Deliwn gyda phob agwedd ar Gyfreitha Sifil, gan gynnwys gwneud cais am waharddeb.
Cyfreitha Troseddol
Gallwn roi cyngor i chi a’ch cynrychioli yng nghyswllt troseddau traffig ffyrdd.
Anghydfodau a Hawliau Cyfreithiol