Adnoddau Cyfreithiol
Mae’r gwefannau a restrir isod yn gweithredu y tu allan i’n rheolaeth ac er y credwn eu bod yn gywir, ni allwn warantu hyn.
Cymdeithas y Gyfraith Cymru a Lloegr
Cynrychiolwn gyfreithwyr yng Nghymru a Lloegr. O negodi gyda, a lobïo cyrff rheoleiddio, llywodraeth ac eraill, i gynnig hyfforddiant a chyngor, rydyn ni yma i helpu, i warchod ac i hyrwyddo cyfreithwyr.
Asiant Tai, Priswyr ac Arwerthwyr yn ardal Aberystwyth sy’n delio gydag eiddo preswyl a masnachol, gan gynnwys tir amaethyddol. Maen nhw hefyd yn trefnu ocsiynau sy’n gwerthu da byw, eiddo a pheiriannau.
UCAC (Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru)
UCAC yw undeb addysg Cymru ar gyfer athrawon, penaethiaid a darlithwyr.
Asiant Tai, Priswyr a Syrfewyr gyda swyddfeydd ym Mhorthmadog, Harlech, Cricieth, Blaenau Ffestiniog a’r Bala. Maen nhw’n marchnata eiddo preswyl a masnachol a hefyd gydag adran broffesiynol sy’n cyflawni gwaith tirfesur strwythurol, arolygon cyn prynu tai, prisiadau fferm a masnachol, gosod tai ac ocsiynau.
Cyfreithwyr ar gyfer yr Henoed
Sefydliad cyfreithwyr cenedlaethol, annibynnol yw Cyfreithwyr ar gyfer yr Henoed sy’n rhoi cyngor cyfreithiol arbenigol i bobl hŷn a bregus, eu teuluoedd a’u gofalwyr.
Cymdeithas y Gyfraith Amaethyddol
Yr ALA yw’r sefydliad rhyng-broffesiynol mwyaf yn y Deyrnas Unedig gan weithio’n llwyr ar faterion cyfraith a busnes cefn gwlad. Mae’r ALA yn canolbwyntio ar gyfraith i hyrwyddo ei wybodaeth, ei ddealltwriaeth a’i ddatblygiad ymhlith rhai sy’n rhoi cyngor i fusnesau gwledig.