Osian Lloyd Roberts
Astudiodd Osian Lloyd Roberts LL.B. (Partner) y gyfraith ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth ac yn Ysgol y Gyfraith Caerdydd.
Cymhwysodd fel cyfreithiwr gyda Guthrie Jones a Jones yn 2003 cyn dod yn bartner yn y cwmni yn 2010. Mae’n gweithio o’n swyddfa yn Ninbych ac mae’n aelod o Gymdeithas y Gyfraith Amaethyddol a Chyfreithwyr yr Henoed.
Mae’n rhugl yn yr iaith Sbaeneg ar ôl byw a gweithio yng Ngwlad y Basg am flwyddyn ac mae ganddo dystysgrif gradd yn yr iaith.
Mae Osian yn un o bymtheg aelod Pwyllgor Cymdeithas Cyfreithwyr Cymru a leolir yng Nghaerdydd i drafod materion cyfreithiol Cymreig ac ef yw Cyfreithiwr Mygedol Cymdeithas Cerdd Dant Cymru.
Osian yw Llywydd cyfredol Cymdeithas Cyfreithwyr Gogledd Cymru a Chaer.