Gwenno Pritchard Hughes
Bywgraffiad
Magwyd Gwenno ar ffarm yn Nant Peris a mynychodd Brifysgol Bangor ble gwnaeth radd yn y Gyfraith a gradd mewn Criminoleg a Chyfiawnder Gyfreithiol.
Yn Hydref 2012 ymunodd Gwenno a’r cwmni fel ysgrifenyddes a daeth yn Gyfreithwraig dan Hyfforddiant yn Ionawr 2016 ar ol cwblhau cwrs Diploma mewn Ymarfer Cyfreithiol yn Mhrifysgol y Gyfraith Christleton Caer.
Cymhwysodd Gwenno fel Cyfreithwraig yn Chwefror 2018 a gwna ystod eang o waith cyfreithiol yn cynnwys trsglwyddo eiddo, papatoi pwerau atwrnai, paratoi ewyllysiau, profiant, ymgyfreithio, cyfraith cyflogaeth a chyfraith teulu.
Daeth Gwenno yn fam yn 2020 a mae’n mwynhau treulio amser hamdden gyda’i theulu a’i ffrindiau.
Mae Gwenno yn rhugl yn y Gymraeg a mae’n hapus i ddarpau cyngor a chynhyrchu dogfennau I gleientydd yn y ddwy iaith.