Erin Jones (Cyfreithwraig dan hyfforddiant)
Bywgraffiad
Graddiodd Erin o Brifysgol y Gyfraith yn Manceinion yn 2019 gyda Diploma Graddedig yn y Gyfraith cyn cwblhau y Cwrs Ymarfer Cyfreithiol ym Mhrifysgol y Gyfraith yng Nghaer. Ymunodd gyda Guthrie Jones & Jones yn 2019 fel ysgrifenyddes gyfreithiol yn ein swyddfa yn Nolgellau, a dechreuodd ei hyfforddiant yng Nghorffennaf 2021.
Mae Erin yn byw ger y Bala, a thu allan i oriau gwaith mae hi’n mwynhau darllen, cadw’n ffit a chymdeithasu gyda teulu a ffrindiau.