Ceri Haf Roberts (Cyfreithwraig dan hyfforddiant)
Bywgraffiad
Ymunodd Ceri gyda Guthrie Jones & Jones yn 2019 fel paragyfreithwraig yn ein swyddfa yn Ninbych.
Yn dilyn derbyn gradd yn y Gyfraith, aeth Ceri ymlaen i dderbyn Gradd Meistr mewn Ymarfer Cyfreithiol o Brifysgol y Gyfraith, Caer.
Mae Ceri yn ymgymryd ag ystod eang o waith cyfreithiol ym meysydd cyfraith teulu, achosion deddfwriaeth plant, ewyllysiau a phrofiant, prynu a gwerthu tai, cyfraith amaethyddol ac achosion cyfraith cyflogaeth.
Ymddiddora Ceri yn bennaf mewn materion ysgaru, ymddatodiad perthynas a dosbarthiad asedion ariannol.
Tu allan i oriau gwaith, mae Ceri’n mwynhau canu a pherfformio a bu’n llwyddiannus mewn Eisteddfodau Cenedlaethol a Rhyngwladol ar hyd y blynyddoedd. Yn ddiweddar, sefydlodd Gôr ar gyfer ieuenctid yr ardal ac edrychai ymlaen i barhau a’i gwaith fel arweinyddes yn y dyfodol agos.