Annest Gwilym Smith
Y mae Annest yn gyfreithiwr profiadol sy’n arbenigwr anghydfodau cymhleth yn ymwneud a thir ac ystadau personol.
Gall hefyd ymdrin a materion cyfreithiol eraill yn cynnwys trosglwyddo eiddo ac ewyllysiau.
Yn enedigol o Abergeirw ger Trawsfynydd cafodd ei magu ar fferm a dychwelodd yn ddiweddar i’r ardal yn dilyn nifer o flynyddoedd yn gweithio i gwmniau cyfreithiol yng Nghaerdydd Wrecsam a Chaer. Bydd Annest yn gweithio o’n swyddfa yn Nolgellau ond bydd hefyd yn gallu cynnal cyfarfodydd yn ein swyddfeydd yn Y Bala a Dinbych.